Nigel Brinn

Uwch Gyfarwyddwr yr Economi a’r Amgylchedd
Cyngor Sir Powys

Fi yw'r Uwch Gyfarwyddwr dros yr Economi a’r Amgylchedd yng Nghyngor Sir Powys. Ar ôl hyfforddi’n wreiddiol fel Syrfëwr Mwynau Siartredig, rwyf wedi gweithio yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat mewn amrywiaeth o rolau gwahanol.

Mae hyn wedi rhoi gwerth 30 mlynedd o brofiad proffesiynol i mi. Mae fy rolau blaenorol mwyaf nodedig yn cynnwys Cyfarwyddwr Traffyrdd a Thrafnidiaeth yn Rhondda Cynon Taf a Phennaeth Gwasanaethau - Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu yng Nghyngor Sir Powys.

Rwyf hefyd wedi ymgymryd â rolau fel Cyfarwyddwr Cyd-fenter Capita Morgannwg (CBSRCT/Kier), Cyfarwyddwr Rheoli Amgen Cymru ac ar hyn o bryd, fi yw Cyfarwyddwr Cyd-fenter Gwasanaethau Eiddo Calon Cymru (CSP/Kier).

Mae gen i gymhwyster Rheolwr Gwastraff Siartredig a BSc mewn Rheoli Ystadau a MBA o Ysgol Fusnes Caerdydd. Yn fy amser hamdden, rwy’n gefnogwr brwd o bêl-droed a rygbi, yn beicio, yn rhedeg ac yn cerdded bryniau ac yn mynd â’r ci am dro.