Ruth Mullen

Cyfarwyddwr yr Amgylchedd
Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cymru

Mae gan Ruth dros 30 mlynedd o brofiad o Lywodraeth Leol, mewn Awdurdodau Lleol yng Nghymru ac yn Lloegr. Dechreuodd ei gyrfa fel peiriannydd yn y diwydiant dylunio priffyrdd a draenio a rheoli contractau, yn gweithio ar gynlluniau draenio sylweddol ar gyfer datblygiadau preswyl a sawl prosiect gwelliannau amgylcheddol a gwella tir cyhoeddus. Roedd Ruth yn gyfrifol am ddatblygu polisi a strategaeth trafnidiaeth, datblygu cynlluniau i hyrwyddo a gwella teithio aml-foddol er mwyn lleihau allyriadau carbon.

Mae Ruth wedi gweithio ar lefel rheolaeth gorfforaethol gyda Llywodraeth Leol ers dros 15 mlynedd. Mae hyn wedi cynnwys arwain y Gwasanaeth Rheoli Gwastraff a Phriffyrdd Cyngor Caerdydd, gyda chyfrifoldeb dros drefnu casgliadau gwastraff cartref, gwasanaeth ailgylchu a gwaredu, datblygu’r Strategaeth Gwastraff Trefol, rheoli asedau priffordd a chynnig gwasanaethau ac ymatebion bryd 24 awr. Ruth oedd prif gynrychiolydd Cyngor Caerdydd ar y bwrdd partneriaeth ar gyfer caffael contract 25 blynedd ar gyfer trin a chael gwared ar wastraff gweddilliol.

Ymunodd Ruth â Chyngor Dinas Caerwrangon fel Cyfarwyddwr Corfforaethol yn 2011, gyda chyfrifoldeb dros Ddarparu Gwasanaeth. Arweiniodd Ruth nifer o wasanaethau cyhoeddus gan gynnwys casgliadau sbwriel, gwasanaethau glanhau strydoedd, gwelliannau i briffyrdd a thir cyhoeddus, gwasanaethau tai a chymunedol, a chynllunio. Roedd gweithgaredd caffael yn cynnwys gwasanaethau casglu sbwriel amgen a fflyd glanhau strydoedd, a chaffael gweithredwr gwasanaethau hamdden a chaffael y gwaith o ddylunio ac adeiladu cyfleuster pwll nofio newydd gwerth £10miliwn.

Ar hyn o bryd, Ruth yw Cyfarwyddwr yr Amgylchedd yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, gyda chyfrifoldeb dros Briffyrdd a Thrafnidiaeth, Gwasanaethau'r Amgylchedd a Gwastraff, Cynllunio ac Eiddo, gyda chyfanswm cyllideb refeniw o thua £90m. Ruth yw’r arweinydd corfforaethol dros gyflwyno ysgolion newydd a gwell, gyda gwariant cyfalaf o dros £90m, ac mae hi’n gyfrifol am y rhaglen gyfalaf ar gyfer prosiectau priffyrdd sylweddol o thua £30m dros 5 mlynedd. Mae Ruth hefyd yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno’r Cynllun Datblygu Lleol ac am fodloni’r dyletswyddau dan Ddeddf yr Amgylchedd gan gynnwys datblygu mentrau i gynnig datrysiadau gwyrdd ar gyfer dal a storio carbon. Ar hyn bryd, Ruth yw Cyfarwyddwr gyda chyfrifoldeb arweinydd corfforaethol agenda Carbon Sero Net Cyngor Sir Caerfyrddin, gyda chyfrifoldebau arwain penodol i wasanaeth ar gyfer caffael cerbydau fflyd newydd ULEV ar gyfer casglu sbwriel a gwaith cynnal a chadw’r priffyrdd dros y gaeaf, trawsnewid y gwasanaethau trin a chael gwared ar wastraff er mwyn gwneud y mwyaf o ddatrysiadau economi gylchol ac ailgylchu, cyflwyno datrysiadau carbon isel ar gyfer eiddo’r Cyngor gan gynnwys ysgolion, goleuadau ffordd LED, prosiectau partner gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno datrysiad bws trydanol a chyflwyno mannau gwefru cerbydau trydanol.