Yr Athro Dave Worsley

Pennaeth Gwyddoniaeth Deunyddiau a Pheirianneg, Prifysgol Abertawe
Cyfarwyddwr Ymchwil, Canolfan Arloesedd a Gwybodaeth SPECIFIC®

Mae’r Athro Dave Worsley yn arwain sawl prosiect consortiwm rhyngwladol a chenedlaethol ym Mhrifysgol Abertawe, yn cefnogi’r gwaith o drawsnewid diwydiant yn barod am ddyfodol carbon is. Hyd yn hyn, mae wedi arwain y gwaith o ddatblygu buddsoddiad o dros £120M mewn hyfforddiant, ymchwil ac arloesi cydweithredol.

Gyda diwydiant adeiladu’r DU yn cyfrif am 60% o’r holl ddeunyddiau a ddefnyddiwyd, adeiladau’n allyrru hyd at 40% o allyriadau carbon ac ymdrech fyd-eang i fabwysiadu cerbydau trydanol, mae datgarboneiddio’r gadwyn gyflenwi deunyddiau ar gyfer adeiladau a thrafnidiaeth yn hanfodol. 

Er mwyn bodloni agenda dur yr 21ain ganrif, creodd Dave y Sefydliad Dur a Metelau a SUSTAIN. Mae’r ddau sefydliad yn cefnogi cynhyrchwyr dur y DU i gyrraedd targedau datgarboneiddio 2050 Diwydiant Dur y DU.

Yn 2011, arweiniodd y gwaith o sefydlu Canolfan Arloesedd a Gwybodaeth (IKC) SPECIFIC​®   gonsortiwm o bartneriaid o ddiwydiant, y byd academaidd a’r llywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu cysyniad o Adeiladau Actif​® . Cafodd SUNRISE ei ychwanegu i’r Portffolio i fynd â’r cysyniad dramor i gymunedau gwledig yn India.

Gyda'r 'darlun ehangach' mewn golwg, mae Dave wedi argymell gosod mecanweithiau gwefru trydan i'r cynllun Adeiladu Actif​® , gan gynhyrchu digon o drydan sbâr i bweru ei gerbyd trydanol i deithio dros 36,000 o filltiroedd gan ddefnyddio'r haul.