Joanna Clarke

Rheolwr Dylunio Adeiladau
Canolfan Arloesedd a Gwybodaeth SPECIFIC®, Prifysgol Abertawe

Mae Joanna yn Bensaer cofrestredig, wedi’i chyflogi ar hyn o bryd fel Rheolwr Dylunio yng Nghanolfan Arloesedd a Gwybodaeth SPECIFIC®, Prifysgol Abertawe. Cyn ymuno â SPECIFIC® yn 2013, bu'n gweithio fel Pensaer Prosiect mewn practis pensaernïol masnachol am 13 mlynedd. Ei phrif rôl yn SPECIFIC® yw cefnogi’r gwaith o ddylunio a chyflwyno prosiectau Adeiladu Actif ynni isel, sy’n cyfuno cynhyrchiad ynni adnewyddiadau a storio ynni i leihau defnydd cyffredinol o ynni ac allyriadau carbon adeiladau. Ei rôl yw cynorthwyo’r tîm yn SPECIFIC® i yrru ymlaen â thechnolegau newydd o ymchwil hyd at fasnacheiddio, mae hi wedi dylunio a rheoli ein dau brosiect adeilad arddangoswr - y Dosbarth Actif® (2016) a’r Swyddfa Actif® (2018). Mae’r adeiladau hyn yn arddangos y cysyniad Adeiladu Actif®, gan ddefnyddio technolegau newydd yn ogystal â thechnolegau sydd ar gael yn fasnachol, a chawsant eu cyflwyno ar y cyd â phartneriaid adeiladu.   

Mae ei rôl bresennol yn cynnwys arwain gweithgareddau cenedlaethol a rhyngwladol ar ddyluniad pensaernïol adeiladau arddangoswyr newydd y genhedlaeth nesaf, gan gynnwys Dosbarth Actif® ar gyfer pentrefi gwledig yn India, sy'n cael ei gyflwyno drwy brosiect SUNRISE.  

Yn ddiweddar, mae wedi datblygu Pecyn Cymorth Adeiladu Actif® i helpu i ddylunio prosiectau Adeiladu Actif® eraill, fel rhan o Ddoethuriaeth Broffesiynol yn yr Amgylchedd Adeiledig Cynaliadwy.