Dr Christopher Groves

Cymrawd Ymchwil
Systemau Ynni Integredig Hyblyg (FLEXIS) Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd

Mae ymchwil Christopher Groves yn defnyddio dulliau ansoddol i ymchwilio sut mae pobl a sefydliadau’n trafod ac yn ymdopi â dyfodol sy’n gynhenid ansicr – dyfodol sy’n cael ei ddychmygu fwyfwy yng nghyd-destun newid amgylcheddol byd-eang ac arloesedd technolegol sy’n datblygu’n gyflym.

Mae’r monograff Future Matters: Action, Knowledge, Ethics (Brill, 2007), wedi’i gyd-ysgrifennu gyda’r Athro Barbara Adam (Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd), yn archwilio’r themâu hyn yn fanwl, wedi’u datblygu ymhellach ochr yn ochr â themâu moesegol Gofal, Ansicrwydd a Moeseg Ryng-genedlaethol (Palrgrave, 2014).

Ers 2013, mae ei waith wedi canolbwyntio ar yr ansicrwydd o amgylch y gwaith o bontio tuag at system ynni wedi’i ddatgarboneiddio, yn gyntaf ar y prosiect Bywgraffiadau Ynni, ac yn fwy diweddar ar FLEXIS.