Yr Athro Alan Guwy

Pennaeth y Ganolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy
Prifysgol De Cymru

Mae’r Athro Alan Guwy wedi arwain y Ganolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC) ym Mhrifysgol De Cymru ers 2004. Yn flaenorol, ef oedd Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Ynni ac Amgylchedd ym Mhrifysgol De Cymru, ac arweiniodd Tasg 34 Cytundeb Gweithredu Hydrogen yr IEA.

Mae wedi arwain y tîm SERC ar sawl consortiwm RCUK ac EU FP sylweddol, ac wedi bod yn rhan o waith ymchwil a ariannwyd gwerth dros £50M i’r brifysgol. Cydarweiniodd y gwaith o greu a datblygu'r Ganolfan Ymchwil Hydrogen a agorwyd yn 2008. Mae'n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn aelod o Grŵp Llywio Hydrogen y Gymdeithas Frenhinol.

Mae ei waith presennol yn canolbwyntio ar y systemau ynni hydrogen cynaliadwy, bioburo trefol, trosi nwy-syn i garbocsiladau, biohydrogen ac optimeiddio treuliad anaerobig.

Mae wedi cyhoeddi 120 o bapurau a adolygwyd gan gymheiriaid ac mae'n arwain yr ymchwil systemau ynni hydrogen yn FLEXIS ac mae'n arwain PDC ar brosiectau FLEXISAPP a RICE. Mewn cydweithrediad â TATA a Dŵr Cymru, ef yw'r arweinydd ar gysyniad bioburo diwydiannol "Ffatri VFA ar gyfer Datgarboneiddio" ar gyfer gwneud asidau carbocsilig o fio-wastraff a nwyon-syn a ariennir drwy raglenni Cyflymu SER Cymru ac IDRIC UKRI.