Tim Peppin

Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy
CLILC

Mae Tim wedi gweithio mewn llywodraeth leol ers 1988, gan ddechrau fel Swyddog Ymchwil Economaidd gyda Chyngor Bwrdeistref Cleveland, cyn ymuno â Chyngor Bwrdeistref Morgannwg Ganol yn 1992. Yna daeth yn Rheolwr Polisi ac Ymchwil i Gyngor Bwrdeistref Caerffili yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996. Bu’n gweithredu fel swyddog arweiniol ar ddatblygu cynaliadwy a chysylltiadau corfforaethol y sector gwirfoddol gan gymryd rhan helaeth mewn mentrau adfywio cymunedau. Yn 2004 daeth Tim yn Bennaeth Polisi a Gwasanaethau Democrataidd Caerffili ac aelod o’r Tîm Rheoli Corfforaethol.

Ymunodd Tim â CLILC yn Rhagfyr 2007 fel Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy. Mae’r rôl yn cwmpasu amrediad eang o faterion yn ymwneud ag adfywio a’r amgylchedd gan gynnwys effeithlonrwydd gwastraff/adnoddau, trafnidiaeth, cynllunio, datblygu economaidd/busnes a chymunedol, llifogydd a dŵr, cefn gwlad a bioamrywiaeth, Parciau Cenedlaethol, adfywio gwledig yn ogystal â rolau corfforaethol mewn perthynas â threfniadau pontio Ewropeaidd, datgarboneiddio a datblygu cynaliadwy.