Ian Mansfield

Prif Swyddog Gweithredu
Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Penodwyd Iain Mansfield yn Brif Swyddog Gweithredu Cymdeithas Adeiladu’r Principality ym mis Medi 2017, ac arweiniodd hyn at siwrnai a oedd yn cynnwys trawsnewid ac uwchraddio gallu technolegol y Principality er mwyn esgor ar fanteision hirdymor i’r busnes.

Yn ystod ei yrfa helaeth, aeth Iain ati i ail-lansio Nemo Personal Finance, gan ennill sawl gwobr yn cynnwys ‘Strategaeth Gwella Busnes Orau 2016’ yng Ngwobrau Canolfannau Cyswllt Cymru (ar sail pleidleisiau gan y byd diwydiant) a’r wobr ar gyfer y ‘Tîm Gorau’ yng Nghinio Gwobrau Blynyddol Grŵp y Principality yn 2016. Yn ystod 2013/2014 lansiodd 118 118 Money fel cwmni newydd yn y farchnad benthyciadau ansicredig, ailffurfiodd y busnes New Day trwy roi strategaeth gyllido ar waith, ac yn 2012 lansiodd y Cambridge and Counties Bank fel Rhoddwr Benthyciadau BBaCh newydd.
 
Mae gan Iain radd yn y gyfraith o Goleg Prifysgol Llundain. Mae ganddo fwy na 18 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cyllid i gwsmeriaid yn Llundain a Chaerdydd, yn cynnwys rolau yn Barclays, Firstplus a’r Cambridge & Counties Bank. Mae Iain wedi’i gymeradwyo gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) ac mae’n Gysylltai Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr.

Mae Iain yn byw yng Nghaerdydd, ac mae’n briod gyda thri o blant.