David Jones

Cyfarwyddwr Rhanddeiliaid (Y Deyrnas Unedig)
Blue Gem Wind

Mae David yn canolbwyntio ar ymgysylltu â rhanddeiliaid ar ran portffolio Blue Gem Winds o brosiectau gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd. Mae hyn yn golygu gweithio gyda phob parti sydd â budd, yn cynnwys cwmnïau’r gadwyn gyflenwi, porthladdoedd, y llywodraeth a chymunedau arfordirol. Cyn ymuno â Simply Blue Energy, David oedd Prif Swyddog Gweithredol Fforwm Arfordirol Sir Benfro, sef cwmni a enillodd amryw byd o wobrau ac y pleidleisiwyd mai ef oedd y “fenter gymdeithasol fwyaf cynaliadwy” yng Nghymru. Mae David wedi gweithio’n benodol ar ynni’r môr ers mwy na 12 mlynedd, ac ef a ddatblygodd Ynni Môr Cymru o’i ddechreuad i fod yn gydweithrediad a ystyrir yn arfer da byd-eang. Mae hefyd wedi gweithio’n uniongyrchol i Weinidogion y Llywodraeth ac mae wedi llunio polisïau ategol yn ymwneud ag ynni’r môr yng Nghymru.