Yr Athro Lorraine Whitmarsh

Seicolegydd Amgylcheddol
Yr Adran Seicoleg, Prifysgol Caerfaddon

Seicolegydd amgylcheddol yw’r Athro Lorraine Whitmarsh, ac mae’n arbenigo mewn canfyddiadau ac ymddygiadau’n ymwneud â newid hinsawdd, ynni a thrafnidiaeth. Mae hi’n gweithio yn Adran Seicoleg Prifysgol Caerfaddon. Hi yw Cyfarwyddwr Canolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewid Cymdeithasol (CAST) y DU, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Mae’n mynd ati’n rheolaidd i gynghori sefydliadau’r llywodraeth a sefydliadau eraill ynglŷn â newid ymddygiad carbon isel a chyfathrebu ynghylch newid hinsawdd; arferai fod yn un o arweinwyr arbenigol Cynulliad Hinsawdd y DU; a hi yw Awdur Arweiniol Chweched Adroddiad Gweithgor II y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC). Mae ei phrosiectau ymchwil yn cynnwys astudiaethau’n ymwneud â faint o gig a fwyteir, ymddygiadau effeithlonrwydd ynni, lleihau gwastraff ac ailddefnyddio bagiau siopa, canfyddiadau o dechnolegau clyfar a cherbydau trydan, ffyrdd ‘carbon isel’ o fyw, ac ymatebion i newid hinsawdd.