Poppy Stowell-Evans

Chair
Youth Climate Ambassadors for Wales

Myfyriwr dosbarth chwech 17 mlwydd oed yn Ysgol Uwchradd Llanwern yw Poppy, ynghyd ag ymgyrchydd hinsawdd. Mae’n hanu o Gasnewydd yn Ne Cymru. Mae ei hangerdd dros ymgyrchu er budd yr hinsawdd wedi’i wreiddio yn y cysylltiad rhwng cyfiawnder cymdeithasol a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, ac oherwydd hyn mae hi’n ymgyrchydd tanbaid dros weithredu ‘radical’ yn y maes. Mae Poppy yn Gadeirydd Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru, yn ffeminist brwd ac yn ymgyrchydd dros gyfiawnder cymdeithasol a chyfiawnder hinsawdd.