David Powell

Cyfarwyddwr Ystadau Corfforaethol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cyflogir David fel Cyfarwyddwr Ystadau Corfforaethol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac mae’n aelod anhepgor o Dîm Uwch-arweinyddiaeth y Cyngor. Mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa yn gweithio fel Syrfëwr Adeiladau Siartredig a Rheolwr Prosiect, gan fynd i’r afael â phrosiectau effeithlonrwydd ynni, ac yn awr mae’n gyfrifol am reoli a chynnal portffolio eiddo’r Cyngor, ynghyd â datgarboneiddio asedau’r Cyngor. Mae ganddo fwy na 37 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda’r diwydiant adeiladu, ac mae wedi gweithio yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r gwasanaeth sifil.

Gan weithio ar y cyd â phartneriaid eraill, fel Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Cynghorau Lleol cyfagos a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae David yn cynrychioli Rhondda Cynon Taf er mwyn cydweithio a chynorthwyo i ddatgarboneiddio gweithgareddau yn lleol ac yn rhanbarthol.

Ymhellach, David yw Cadeirydd Bwrdd Arweinyddiaeth Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru, ac mae’n gweithio gyda phob un o’r 22 Awdurdod Lleol i rannu arferion gorau trwy’r maes rheoli asedau, yn cynnwys datgarboneiddio ein hasedau.

Nid yw angerdd David dros yr amgylchedd yn gorffen yn y gwaith. Yn ei fywyd preifat mae wedi bod yn aelod o Gyfeillion y Ddaear ers mwy na 25 mlynedd, a phan fo gartref mae’n mynd ati o ddifrif i leihau’r effaith a gaiff ar yr amgylchedd pa bryd bynnag y bo modd.