Michael Matheson

Ysgrifennydd y Cabinet dros Sero-net
Ynni a Thrafnidiaeth, Yr Alban

Penodwyd Michael Matheson yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Sero-net, Ynni a Thrafnidiaeth ym mis Mai 2021. Fe ganwyd yn Glasgow ym 1970 a chafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd St John Bosco. Aeth yn ei flaen i astudio yn Queen Margaret College, Caeredin, lle’r enillodd BSc mewn Therapi Galwedigaethol. Hefyd, mae ganddo BA a Diploma mewn Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol o’r Brifysgol Agored. Cyn dod yn Aelod Senedd yr Alban, arferai Mr Matheson weithio fel Therapydd Galwedigaethol Cymunedol yng Nghyngor Stirling, yn y Cyngor Rhanbarthol Canolog ac yng Nghyngor Rhanbarthol yr Ucheldiroedd. Yn dilyn etholiadau Mai 2007, cafodd ei ethol yn Aelod Senedd yr Alban ar gyfer Gorllewin Falkirk. Cyn hyn, roedd yn ASA Rhanbarthol ar gyfer Canolbarth yr Alban rhwng 1999 a 2007. Cyn cael ei benodi’n Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Chwaraeon, roedd Mr Matheson yn Is-gynullydd y Pwyllgor Ewropeaidd a Chysylltiadau Allanol. Hefyd, arferai eistedd ar Bwyllgor Iechyd a Chwaraeon Senedd yr Alban, ac yn y gorffennol bu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor Cyfiawnder a’r Pwyllgor Menter a Diwylliant. Ym mis Tachwedd 2014 penodwyd Michael Matheson yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder, ac ym mis Mai 2016 fe’i hailbenodwyd. Ym mis Mehefin 2018 cafodd ei benodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Seilwaith a Chysylltedd.