Lee Waters AS

Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Lee Waters yw Aelod Seneddol etholaeth Llanelli. Cafodd ei eni a'i fagu yn Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysg ym Mrynaman a Rhydaman ac enillodd Radd mewn Gwleidyddiaeth o Brifysgol Cymru, Aberystwyth.

Mae ganddo ddiddordeb eang mewn polisi, yn cynnwys yr economi, newid yn yr hinsawdd, darpariaeth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, polisi digidol a'r cyfryngau.

Cyn cael ei ethol ym mis Mai 2016, roedd Lee yn Gyfarwyddwr melin drafod annibynnol blaenllaw Cymru, y Sefydliad Materion Cymreig. Cyn hynny, roedd yn rhedeg yr elusen trafnidiaeth gynaliadwy Sustrans Cymru gan arwain yr ymgyrch dros y Ddeddf Teithio Gweithredol. Mae'n gyn Brif Ohebydd Gwleidyddol ITV Cymru a chynhyrchydd BBC Cymru.