Dr Tracey Cooper

Prif Weithredwr
LIechyd Cyhoeddus Cymru

Tracey Cooper yw Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dyma sefydliad cenedlaethol o fewn y GIG yng Nghymru, a’i brif ddiben yw diogelu a gwella iechyd a llesiant trigolion Cymru a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Gwna hyn trwy amrywiaeth eang o swyddogaethau, yn cynnwys cyflwyno rhaglenni sgrinio, brechu ac imiwneiddio; darparu gwasanaethau microbioleg; arwain ar ddiogelu iechyd; cynnig arweinyddiaeth strategol o ran heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd; cyflwyno rhaglenni gwella iechyd a gofal iechyd; a darparu adnodd arsyllfa iechyd.

Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, bu Tracey yn Brif Weithredwr yr Awdurdod Gwybodaeth ac Ansawdd Iechyd (HIQA) yng Ngweriniaeth Iwerddon ers 2006. Mae swyddogaethau’r Awdurdod hwn yn cynnwys pennu safonau; rheoleiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol; cynnal Asesiadau Technoleg Iechyd; a chynnig cyngor ynghylch gwelliannau mewn gwybodaeth am iechyd, ynghyd â datblygu safonau technegol i’r perwyl hwnnw.