Nerys Edmonds

Prif Swyddog Datblygu Asesu’r Effaith ar Iechyd

Nerys Edmonds, BA (Anrh), MSc, PG Cert.

Mae Nerys Edmonds yn gweithio i Uned Cymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd (WHIASU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dechreuodd ei gyrfa fel Nyrs Iechyd Meddwl, ac ers 2000 mae wedi gweithio ym maes iechyd y cyhoedd yng Nghymru a Lloegr, gan ganolbwyntio ar hyrwyddo iechyd a lles meddyliol, ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd ac asesu’r effaith ar iechyd. Mae gan Nerys ddiddordeb arbennig yn rôl yr amgylchedd naturiol a llesiant, a hefyd mae wedi cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd ac Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd Meddwl mewn perthynas â rhaglenni amgylcheddol. Ar hyn o bryd, mae Nerys yn gweithio ar Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn sgil Newid Hinsawdd yng Nghymru.