Dr Tom Porter

Ymgynghorydd
Lechyd y Cyhoedd

Bywgraffiad ar gyfer Dr Tom Porter, MB BS, MA (Cantab), MSc (Oxon) FFPH

Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn nhîm iechyd y cyhoedd lleol Caerdydd a’r Fro yw Tom. Hyfforddodd fel meddyg yng Nghaergrawnt a Llundain, a hefyd cafodd hyfforddiant ym maes iechyd y cyhoedd yn Rhydychen. Mae Tom yn danbaid dros gynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio dulliau teithio iach a chynaliadwy, er mwyn gwella iechyd corfforol a lles meddyliol, lleihau anghydraddoldebau, gwella cydlyniant cymdeithasol ac ansawdd yr aer, a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Gweithiodd Tom gyda Chyngor Caerdydd i ddatblygu Cynllun Aer Glân ar gyfer y ddinas, a hefyd gweithiodd ar weledigaeth y cyngor ynghylch trafnidiaeth er mwyn chwyldroi sut y mae pobl yn teithio o gwmpas y Ddinas. Mae wedi arwain y gwaith o ddatblygu Siartrau Teithio Iach, sydd wrthi’n cael eu cyflwyno trwy sefydliadau yng Nghymru, a bellach mae mwy na 50 o sefydliadau arweiniol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat wedi ymrwymo iddynt. Mae’r sefydliadau hynny sy’n ymuno â Siarter o’r fath yn ymrwymo i fynd i’r afael â 15 cam a fydd yn hwyluso’u staff a’u hymwelwyr i gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â chefnogi’r arfer o ddefnyddio cerbydau trydan.