Kristian James

Prif Arbenigwr Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol

Ymarferydd Siartredig mewn Iechyd Amgylcheddol yw Kristian. Mae wedi bod yn gweithio fel Prif Arbenigwr Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ers 2014. Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, bu’n gweithio fel Swyddog Iechyd yr Amgylchedd mewn sawl awdurdod lleol yng Nghymru. Mae iechyd cyhoeddus amgylcheddol yn golygu pennu, asesu a rheoli risgiau’n ymwneud â pheryglon amgylcheddol a all gael effaith niweidiol ar iechyd unigolion ac iechyd y boblogaeth. Mae hyn yn cynnwys effeithiau a ddaw yn sgil digwyddiadau tywydd eithafol a newid hinsawdd.