Jeremy Smith


RWE

Dechreuodd Jeremy ei yrfa yn y maes rheoleiddio gwastraff, ac yna trodd at gynllunio gwastraff a mwynau, cyn symud i RWE Renewables yn 2009 i weithio yn y maes ynni gwynt ar y tir. Yn ddiweddar, bu’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o ddatblygu prosiectau ynni gwynt ar y tir yng Nghymru, yn cynnwys ffermydd gwynt Mynydd y Gwair, Gorllewin Brechfa a Chlocaenog, sydd bellach ar waith. Erbyn hyn, mae wedi ymuno â Busnes Hydrogen RWE Generations lle mae’n cynnig arweiniad ar faterion yn ymwneud â pholisi, rheoleiddio a chymorthdaliadau yn y DU ac Iwerddon, ac mae’n cynorthwyo gwaith RWE o ran datblygu hydrogen gwyrdd yn y DU. Ac yntau â chefndir mewn ynni adnewyddadwy a phrofiad diweddar yn y maes hydrogen, mae mewn sefyllfa dda i gyflwyno safbwynt ynghylch yr amryfal heriau sy’n wynebu datgarboneiddio diwydiannol yn Ne Cymru. Mae RWE yn un o bartneriaid Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC), ac mae Jeremy yma heddiw i gyflwyno trosolwg o weithgareddau’r Clwstwr.