Mari Stevens

Prif Swyddog Marchnata
Ogi

Mari Stevens yw Prif Swyddog Marchnata Ogi, cwmni band eang ffibr llawn wedi'i leoli yng Nghaerdydd. Ar ôl sicrhau buddsoddiad pwysig hydref y llynedd, ail frandiodd y cwmni fel ‘Ogi’ yn gynharach eleni i nodi ei ymrwymiad i gysylltu cymunedau ledled de Cymru. Drwy ddod â band eang y genhedlaeth nesaf i lawer o ardaloedd nad ydyn nhw'n cael eu gwasanaethu'n ddigonol, nod Ogi yw helpu i drawsnewid tirwedd ddigidol Cymru, a gwneud ei threfi a'i phentrefi a rwydweithiwyd yn lleoedd mwy cynaliadwy i fyw a gweithio ynddynt. 
Cyn ymuno ag Ogi, roedd Mari yn Gyfarwyddwr Marchnata yn adran Economi Llywodraeth Cymru - lansiodd frand Cymru Wales llwyddiannus ac arwain ymgyrchoedd rhyngwladol Masnach a Buddsoddi a Chroeso Cymru. Helpodd i ysgrifennu strategaeth Croeso Cymru ar gyfer y dyfodol, sy'n rhoi pwyslais ar dwristiaeth gynaliadwy. Mae hi hefyd wedi cyflwyno rhaglenni newid ymddygiad amgylcheddol ar gyfer Dŵr Cymru ac roedd hi'n Bennaeth Marchnata BBC Cymru.