Professor Rt. Hon. Carwyn Jones

Cyn Brif Weinidog Cymru

Y Gwir Anrhydeddus Athro Carwyn Jones yw cyn Brif Weinidog Cymru, sef rôl yr aeth i’r afael â hi rhwng 2009 a 2018. Gadawodd Senedd Cymru yn 2021 ar ôl cynrychioli etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr am ddwy flynedd ar hugain, yn cynnwys deunaw mlynedd yn olynol fel rhan o’r llywodraeth.

Cyn troi at y byd gwleidyddol, bu’n gweithio fel bargyfreithiwr am ddeg mlynedd ac roedd yn Diwtor Proffesiynol ar Gwrs Galwedigaethol y Bar ym Mhrifysgol Caerdydd. Erbyn hyn, mae’n Athro ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae ganddo ddiddordeb ysol mewn cyfraith gyfansoddiadol. Mae hefyd yn Feinciwr yn y Gray’s Inn.

Ers iddo adael gwleidyddiaeth, mae hefyd wedi ymhél â darlledu ac wedi gweithio fel ymgynghorydd busnes, a hefyd mae’n gysylltiedig â sawl elusen. Cyhoeddwyd ei hunangofiant yn 2020.

Yn ei amser hamdden mae’n mwynhau chwaraeon, darllen a theithio. Ar hyn o bryd, mae’n ceisio mynd i’r afael â llu o dasgau o gwmpas y tŷ sydd, yn ôl ei deulu, wedi cael eu hesgeuluso yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf.