Max Barthelme

Rheolwr Prosiect
Protium

Peiriannydd o Ffrainc yw Max Barthelme, ac mae’n arbenigo mewn Ynni a’r Amgylchedd. Mae’n gweithio fel Rheolwr Prosiect i Protium ar brosiect o’r enw Project King, sef prosiect hydrogen gwyrdd sy’n helpu Grŵp Bragu Budweiser y DU ac Iwerddon i ddatgarboneiddio’i Fragdy ym Magwyr (Cymru).

Ar ôl rhai blynyddoedd yn gweithio yn y diwydiant Olew a Nwy yn Affrica, trodd Max ei olygon at ynni adnewyddadwy, ac mae wedi gweithio ar brosiectau mawr o amgylch y byd, yn cynnwys prosiectau ynni gwynt ar y môr/ar y tir a ffermydd solar â batris.