Ms Arantxa Tapia

Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd, Cynaliadwyedd ac Amgylchedd Gwlad y Basg
Llywodraeth Gwlad y Basg

Penodwyd Ms Arantxa Tapia yn Weinidog dros Ddatblygu Economaidd, Cynaliadwyedd ac Amgylchedd Llywodraeth Gwlad y Basg yng Ngorffennaf 2020.

Ei chenhadaeth yw arwain ail-weithrediad economaidd y rhanbarth, gan gryfhau ysbryd cystadleuol y strwythur cynhyrchiol, wrth osod yr amgylchedd yn ganolbwynt holl bolisiau sectoraidd.
Yn 2021 cyflwynodd Gytundeb Gwyrdd y Basg,  y llwybr newydd tuag at ddatblygiad economaidd gwyrdd, teg a chynaliadwy, fydd yn rhoi diwydiant a thechnoleg ar flaen y gad wrth yrru trawsnewid.

Mae Ms Tapia yn arwain llwybr Gwlad y Basg tuag at sero net gydag adnoddau deddfwriaeth megis y Ddeddf Trawsnewid Ynni a Newid yn yr Amgylchedd, prosiectau ar raddfa fawr megis Urban Klima 2050 neu fentrau allweddol megis Clwstwr Campus Diwydiannol Sero Net Gwlad y Basg.

Peiriannydd Diwydiannol yw Ms Tapia, a arbenigodd mewn Trydan a Doctor Cum Laude ym Mhrifysgol Navarre.

Ymysg ei gweithgareddau proffesiynol, bu’n Athro ym Mhrifysgol Gwlad y Basg (UPV/ EHU), ac mae ei  swyddi blaenorol gwleidyddol o fewn Llywodraeth Gwlad y Basg yn cynnwys Cyn Weinidog dros Ddatblygu Economaidd a Seilweithiau a Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth a Gweithfeydd Cyhoeddus.

Cafodd ei phenodi’n Llywydd Regions4 yn 2020 er mwyn dod â llais ac arweinyddiaeth fyd-eang y llywodraethau rhanbarthol i’r Cenhedloedd Unedig a’r prosesau rhyngwladol ar ddatblygiad bioamrywiaeth, yr hinsawdd a chynaliadwyedd.