Dafydd Gwynne

Prif Ymarferwr Iechyd y Cyhoedd
Tîm Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB)

Mae Dafydd yn Brif Ymarferwr Iechyd y Cyhoedd yn Nhîm Iechyd y Cyhoedd BCUHB ac wedi gweithio ym maes iechyd y cyhoedd mewn awdurdodau lleol a’r GIG ers dros 15 mlynedd. Ar hyn o bryd, mae’n arwain yn rhanbarthol ar frechiadau, iechyd meddwl, a chefnogi blaenoriaethau partneriaeth Gogledd Orllewin Cymru (Gwynedd ac Ynys Môn), gan gynnwys newid hinsawdd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.