Rosalind Skillen

Gohebydd Hinsawdd Ifanc y BBC
BBC

Mae Rosalind Skillen yn westeiwr mewn podlediadau, yn siaradwr, ac yn actifydd hinsawdd o Ogledd Iwerddon. Astudiodd Rosalind Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac mae’n angerddol ynghylch sut mae celf, creadigrwydd, a’r dychymyg yn gallu bod o gymorth wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Fel ieithydd, mae ei hactifiaeth yn canolbwyntio ar sut i gyfleu’r newid hinsawdd mewn modd sy’n hygyrch ac yn berthnasol i bobl. Ar hyn o bryd mae Rosalind yn cynrychioli Gogledd Iwerddon fel ‘Gohebydd Hinsawdd Ifanc y BBC’ ac yn gweithio gyda BBC Gogledd Iwerddon er mwyn cynhyrchu straeon newid hinsawdd yn rhan o ohebiaeth y BBC ar COP26. Mae hi hefyd yn gwirfoddoli ac yn ymgyrchu gyda Cyfeillion y Ddaear a Tearfund er mwyn gweithredu ar y newid hinsawdd. Ymddangosodd Rosalind ar restr fer ‘Young Global Changemakers Award’ yn 2021, a bydd yn cynrychioli Gogledd Iwerddon fel Cynrychiolydd yn Uwchgynhadledd One Young World yn Tokyo yn 2022. Yr hyn sy’n cyffroi Rosalind am fod yn rhan o Gynrychiolaeth COP26 Rhwydwaith Arweinyddion y Dyfodol (FLN) ydy’r cyfle a geir i ymrwymo â phobl ifanc eraill, ac i fynd i’r afael â materion byd-eang mewn ffyrdd sy’n ysgogi ac sy’n herio’n ddeallusol. Fel cynrychiolydd COP26 yr FLN, bydd Rosalind yn ehangu ei gwybodaeth o’r dirwedd geowleidyddol a datblygu cynghrair geowleidyddol gryf er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Bydd hi’n dysgu sut i lunio a gweithredu strategaethau arweinyddiaeth mewn cyd-destunau byd-eang, ac mae’n gobeithio defnyddio ei phrofiad yn COP26 i helpu sicrhau bil hinsawdd arloesol i Ogledd Iwerddon.