Ross Akers

Rheolwr Buddsoddi a Chynllunio Strategol
Adnoddau Naturiol Cymru

Ross yw’r Rheolwr Buddsoddi a Chynllunio Strategol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae ei rôl yn gweithredu ar lefel genedlaethol, ac mae’n cynnig trosolwg o gynlluniau buddsoddi a rhaglenni cyflawni CNC mewn perthynas â rheoli perygl llifogydd, ynghyd â pholisïau strategol yn ymwneud â gwaith cynllunio hirdymor i fynd i’r afael â pherygl llifogydd yng Nghymru. Mae ei rôl yn cynnwys gweithredu fel Rheolwr Rhaglenni Cyfalaf, ac mae’n goruchwylio rhaglen peirianneg sifil CNC sy’n cyflwyno cynlluniau newydd i liniaru llifogydd ac yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw sylweddol ledled Cymru. Yn dilyn y llifogydd mawr a effeithiodd ar Gymru ym mis Chwefror 2020, bu Ross yn arwain gwaith adolygu CNC. Arweiniodd y gwaith hwn at bennu gwersi a gwelliannau hollbwysig y dylai CNC eu hystyried wrth symud ymlaen.