Jean-Francois Dulong

Swyddog Cadernid a Diogelwch
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Jean-Francois yw’r arweinydd polisi ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac ef hefyd yw Cadeirydd presennol Fforwm Grwpiau Arfordir Cymru.

Mae Jean-Francois wedi bod yn cynghori ac yn cynorthwyo Awdurdodau Lleol gyda’u gwaith o ddarparu swyddogaethau rheoli perygl llifogydd, ac mae’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i lunio polisïau a strategaethau a chyflawni mentrau cenedlaethol.

Mae ei waith ar y Fforwm yn golygu ystyried ac ysgogi dull mwy cyfannol o reoli ac addasu i lifogydd arfordirol, yn ogystal ag ymwreiddio Cynlluniau Rheoli Traethlin yn y broses benderfynu. Mae Jean-Francois yn annog yr arfer o weithio mewn partneriaeth ac mae’n gweithio’n agos gyda’r gymuned rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol a rhanddeiliaid eraill, gan na ellir mynd i’r afael â rheoli perygl llifogydd arfordirol mewn seilo.

Ei rôl yw cynghori a chynorthwyo Awdurdodau Lleol gyda’u gwaith o ddarparu swyddogaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol a gweithio’n agos gydag amrywiaeth o randdeiliaid i lunio polisïau a strategaethau a chyflawni mentrau cenedlaethol.

 

Mae’r portffolio eang hwn, ynghyd â’i gefndir mewn gwyddorau amgylcheddol, wedi galluogi Jean-Francois i ddeall yr heriau sy’n wynebu ymarferwyr wrth iddynt geisio rheoli risgiau cynyddol gyda llai a llai o adnoddau, ynghyd â’i alluogi i ystyried rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol mewn modd mwy cyfannol, a’i sbarduno i hyrwyddo’r arfer o weithio mewn partneriaeth gydag amrywiaeth o sectorau er mwyn annog cydweithio ac ysgogi gwelliannau o ran sut yr awn ati i ystyried y modd y gellir rheoli ac addasu i berygl llifogydd ac erydu arfordirol.