Natalie Haines

Cysylltai yng nghwmni ymgynghorol Mott MacDonald ac aelod o’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Peiriannydd sifil proffesiynol yw Natalie, ac mae ganddi fwy na 15 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sector perygl llifogydd, y sector arfordirol a’r sector amgylcheddol o fewn y DU a dramor. Ar hyn o bryd mae’n gweithio i’r cwmni ymgynghorol Mott MacDonald, ond mae hi hefyd yn aelod o Bwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru, gan gynnig cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch materion o bob math yn ymwneud â pherygl llifogydd ac erydu arfordirol. Hi oedd awdur arweiniol y canllawiau achos busnes newydd ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer Cymru.