Jacqueline Thomas

Cynrychiolydd Dysgu Undeb Community
Tata Steel

Mae Jacqueline Thomas yn gynrychiolydd gwyrdd ac yn gynrychiolydd dysgu ar gyfer Undeb Community yn Tata Steel, Llanwern, De Cymru, lle mae wedi gweithio ers 15 mlynedd. A hithau wedi’i magu mewn tref lle cloddid am lo a dur yn y 1980au, gwelodd Jacqueline â’i llygaid ei hun yr effaith a gafodd cau’r pyllau ar gymunedau lleol, gan arwain at golli swyddi â chyflogau da a pheri i drefi cyfan fynd i drafferthion. Yn awr, fel un o’r ychydig gynrychiolwyr benywaidd yn y diwydiant, mae hi’n ymgyrchu ar hyd a lled safleoedd Tata Steel am newid teg yn niwydiant dur y DU.