Kevin Thomas

Cyfarwyddwr
Lantra

Mae Kevin yn defnyddio’i ddealltwriaeth helaeth o’r sector amgylcheddol a’r sector tir i ddatblygu cylch gwaith Lantra ymhellach yng Nghymru.

Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Reading gyda BSc mewn Amaethyddiaeth, gweithiodd ar secondiadau hyfforddi gyda busnesau garddwriaethol pwysig yn East Anglia a Kent cyn dychwelyd i Gymru i fynd i’r afael â chyfres o swyddi amaethyddol ac amgylcheddol gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Yna, bu Kevin yn gweithio gydag Awdurdod Datblygu Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn amrywiaeth o rolau strategol a chyllido a oedd yn gysylltiedig â Chyswllt Ffermio a Strategaethau Garddwriaeth ac Organig Cymru.

Ymunodd Kevin â Lantra ar ôl ei gyfnod gyda Choleg Garddwriaeth Cymru, ac yntau yn y gorffennol wedi bod yn rheoli prosiect datblygu Busnes Garddwriaethol Interreg gyda phartneriaid yn Iwerddon.