Dominic Scott

Arbenigwr Polisi a Strategaeth Draenio
Dŵr Cymru Welsh Water

Mae gan Dominic dros 30 mlynedd o brofiad mewn dylunio, adeiladu, a gorfodaeth seilwaith draenio yn y DU, ac y mae’n Gymrawd o’r Sefydliad Dŵr.

Ar hyn o bryd mae’n cael ei gyflogi gan Dŵr Cymru Welsh Water fel rhan o’u tîm Asedau Dŵr Gwastraff a chanddo gyfrifoldeb ag agweddau ar bolisi a strategaeth carthffosiaeth.

Ers ymuno â Dŵr Cymru yn 2008, mae Dominic wedi arwain i weithredu’r camau diweddarach o’r trosglwyddiad carthffosiaeth breifat a datblygiad eu strategaeth Rainscape, wedi rhoi cymorth i Lywodraeth Cymru gyda gweithredu’r Systemau Draenio Cynaliadwy hanfodol ac mae’n parhau i arwain mentrau er mwyn cwrdd ag amcanion hirdymor y cwmni.