Mark McKenna

Cyfarwyddwr Sefydlu
Down to Earth

Mae Mark McKenna yn gyfarwyddwr ac yn sylfaenydd Down to Earth, grŵp o fentrau cymdeithasol sydd wedi ennill gwobrau ac wedi’i leoli yng Ngŵyr, Abertawe. Yn ystod y 16 mlynedd diwethaf, mae Mark wedi bod yn datblygu dulliau arloesol a chynhwysol o ddarparu gofal iechyd ac addysg drwy gyfrwng adeiladu cynaliadwy, rheoli tir cynaliadwy ac anturiaethau awyr agored.