Peter Davies

Cadeirydd
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Mae cefndir gyrfaol Peter ym maes cyfrifoldeb corfforaethol yn gweithio i Gonffederasiwn y Diwydiant Prydeinig, yr Adran Masnach a Diwydiant ar bartneriaethau addysg fusnes a chafodd OBE am ei waith yn 1995. Bu’n Rheolwr Gyfarwyddwr yn Business in the Community o 1995 hyd at 2005 yn arwain y gwaith ar ddatblygu cyfrifoldeb corfforaethol.

Penodwyd ef yn Is-gadeirydd Comisiwn Datblygu Cynaliadwy’r DU yn 2006, yna daeth yn Gomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy dros Gymru ac yn gadeirydd Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, gan chwarae rhan allweddol yn natblygiad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn 2015 Cafodd Peter OBE am ei gyfraniad i ddatblygiad cynaliadwy yn 2016.

Ar hyn o bryd mae’n cadeirio Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Grŵp Her Cwsmeriaid Dŵr Cymru, Grŵp Rhanddeiliaid Morol Cymru ac Ynni Cymunedol Sir Benfro. Mae’n Geidwad Cymunedol i River Simple, yn Gyd-sylfaenydd elusen Maint Cymru ac yn Athro Ymarfer ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.