Sarah Hopkins

Rheolwr
Cynnal Cymru

Ymunodd Sarah â Chynnal Cymru yn 2020 ac mae’n gyfrifol am ei rheolaeth gyffredinol a datblygiad ei gweithgareddau a gwasanaethau ledled Cymru a thu hwnt. Mae ei phrofiad yn cynnwys ymgysylltiad cymunedol ac arweinyddiaeth dros welliannau hinsoddol, amgylcheddol a chymdeithasol mewn cadwyni cyflenwi. 

Fel arweinydd rhaglen waith Cymdeithas Deg a Chyfiawn Cynnal Cymru, mae Sarah yn cefnogi’r achrediad a strategaeth Cyflog Byw yng Nghymru, cynghori ynghylch rôl y cyflog byw o fewn agenda ehangach Gwaith Teg a’r cyfleoedd ar gyfer cwtogi anghydraddoldebau ar draws meysydd polisi, yn gynnwys caffael. Mae Sarah hefyd yn cynnig cymorth gyda hwyluso ymarferiad y Gymuned Economi Sylfaenol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sydd ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar y cyfleoedd ar gyfer cryfhau’r sectorau bwyd, gofal cymdeithasol a thai yng Nghymru wrth i ni symud tuag at economi sero net.