Darren Thomas

Pennaeth Seilwaith
Cyngor Sir Penfro

Addysgwyd Darren yn Ysgol Greenhill Dinbych-y-pysgod a Phrifysgol Aston, ble llwyddodd i ennill gradd Dosbarth Cyntaf gydag Anrhydedd mewn Peirianneg Sifil. Cymhwysodd fel Peiriannydd Sifil Siartredig (MICE) yn 1993 a gweithiodd i Atkins, y cwmni gwasanaethau peirianneg rhyngwladol Prydeinig, am 8 mlynedd, gan gynnwys blwyddyn yn gweithio dramor yn Sri Lanka. Daeth yn Aelod o Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol (MIStructE) yn 1997 a chyflawnodd MBA yn 2003.

Gweithiodd Darren i Gyngor Sir Benfro ers 1998 mewn nifer o swyddi technegol.  Cafodd ei benodi’n Bennaeth Gwasanaeth yn 2005, ac fel Pennaeth Seilwaith yn 2018. Yn ei swydd mae’n rheoli pob agwedd ar briffyrdd a gofal stryd; trafnidiaeth a theithio llesol; rheoli arfordirol a llifogydd; a gwasanaethau adeiladu proffesiynol. Cafodd ei benodi’n Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Sifil yn 2020. Mae Darren wedi’i hyfforddi fel Comander Digwyddiad Aur Aml Asiantaeth, ac yn y rôl hon helpodd i arwain ymateb y Cyngor i’r pandemig COVID yn 2020/21 a Chadeirio’r Grŵp Cydlynu Adferiad Rhanbarthol. Mae Darren hefyd yn aelod o Bwyllgor Erydu Arfordirol a Llifogydd Cymru ac yn cynrychioli awdurdodau lleol Cymru yng Ngrŵp Cyswllt Ffyrdd y DU.