Eluned Hâf

Head of Wales Arts International
Arts Council of Wales

Mae Eluned yn arweinydd diwylliannol llawn egni, yn gyfathrebydd amlieithog, gydag arbenigedd mewn strategaeth gelfyddydol ryngwladol. Fel Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yng Nghyngor Celfyddydau Cymru, arweiniodd Eluned y bartneriaeth Horizons ac WOMEX13 yng Nghaerdydd, ac yn fwy diweddar, Arts Infopoint UK. Mae hi’n cynghori Llywodraeth Cymru ar bolisi diwylliannol rhyngwladol, ac wedi arwain sawl cenhadaeth ddiwylliannol ryngwladol yn India, Japan, Tsieina a’r UE. Hyfforddodd Eluned fel newyddiadurwraig darlledu digidol ac mae wedi gweithio i Reuters, BBC Wales a Boomerang TV ymysg eraill. Fel swyddog y wasg amlieithog ar gyfer Grŵp EFA / Gwyrdd Ewrop yn Senedd Ewrop, ymgyrchodd dros Brotocol Kyoto a datblygodd agenda ddiwylliannol Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig yn Johannesburg yn 2002. Oherwydd y profiad hwn, Cymru oedd y wlad gyntaf i gyflwyno nodau diwylliannol fel rhan o’n cynlluniau Datblygiad Cynaliadwy ac ymrwymiadau byd-eang wrth arloesi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.