Dyma Arddangosfa Cymru Greadigol baner

Cynhaliwyd Arddangosfa Cymru Greadigol yn Y Depo yng Nghaerdydd ar 20 Mehefin, gyda dros 250 yn mynychu’r digwyddiad. 

Daeth cwmnïau, sefydliadau a gweithwyr llawrydd ynghyd o’r holl ddiwydiannau creadigol i glywed am yr ystod eang o brosiectau a mentrau arloesol a chyffrous sy’n cael eu datblygu i gefnogi’r diwydiant yng Nghymru, 

Roedd casgliad o drafodaethau allweddol, dadleuon panel a sesiynau rhyngweithiol yn mynd i’r afael ag ystod eang o ddisgyblaethau, o Ffilm, Teledu ac Animeiddiad, i Gemau, Cerddoriaeth a Chyhoeddi.

Os nad oeddech wedi gallu mynychu Arddangosfa Cymru Greadigol 2023, peidiwch â phoeni! Bydd fideo uchafbwyntiau yn dangos rhai o’r rhannau gorau, ar gael yn fuan. Dewch yn ôl at y dudalen hon ymhen ychydig ddyddiau pan ddylai’r fideo uchafbwyntiau fod ar gael.

 

Diolch i bawb a fynychodd yr Arddangosfa Cymru Greadigol. Os hoffech drefnu galwad neu gyfarfod dilynol gydag aelod tîm o’r sector Cymru Greadigol, cysylltwch â ni drwy: CreativeWales@gov.wales.

Mae’n gyfnod mor gyffrous i’r sector. Mae dyfodol disglair o’n blaenau hefyd, diolch i'r cyfoeth o dalent, y brwdfrydedd a’r angerdd sydd i’w weld ledled Cymru.

 

 

                        

 

 

Hygyrchedd                      Cwcis                       Datganiad hawlfraint                        Polisi preifatrwydd gwefan                       Telerau ac amodau