Ar ddydd Iau 17 Mawrth, trefnodd Llywodraeth Cymru’r gynhadledd ‘Archwilio Allforio Cymru 2022’, a oedd yn gyfle i allforwyr hen a newydd gael mynediad at ystod o wybodaeth a chyngor ar bob agwedd ar allforio, a dysgu sut all Llywodraeth Cymru helpu busnesau.
Yn ystod y gynhadledd, roedd cynrychiolwyr yn medru cymryd rhan yn yr elfennau canlynol:
- Arddangos – cyfle i siarad ag ystod o arbenigwyr o sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r sector preifat sy’n cynnig cyngor a’u gwasanaethau i allforwyr
- Seminarau – cyfle i ddysgu mwy am y cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch elfennau allweddol o fasnach ryngwladol gan ystod o arbenigwyr
- Cyngor un-i-un – trefnu sesiynau un-i-un gydag arbenigwyr allforio rhyngwladol a chynghorwyr i archwilio cyfleoedd