Russell Roberts

Dirprwy Gyfarwyddwr – Masnach a Buddsoddi
Llywodraeth Cymru

Mae Russel wedi gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ers dros 25 mlynedd, yn ymwneud â chyflwyno swyddogaethau a pholisi ar lefel uwch o fewn llywodraeth leol, llywodraeth genedlaethol, a sefydliadau rhyngwladol. Drwy gydol ei yrfa, mae wedi gweithio i gynrychioli Cymru a chodi’i phroffil yn rhyngwladol, gan gynnwys arwain sawl dirprwyaeth masnach ryngwladol i farchnadoedd allweddol ar draws pob sector. Fel Dirprwy Gyfarwyddwr Masnach a Buddsoddi Llywodraeth Cymru, mae’n arwain ac yn cyflwyno rhaglenni masnach (cymorth allforio); gweithgareddau hyrwyddo buddsoddi mewnol; rhaglen o ddigwyddiadau masnach genedlaethol/ryngwladol; pob un yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno Cynllun Gweithredu Allforio a Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru.