Clare Birt

Cyfarwyddwr Marchnata
Winncare DU

Mae Clare yn Gyfarwyddwr Marchnata i Winncare ym Mhowys, sef adran yn y DU o gwmni gofal iechyd byd-eang.  Bu’n gweithio i’r busnes ers 8 mlynedd ac mae hi hefyd yn aelod o Fwrdd y Cyfarwyddwyr. Mae gan Clare gefndir o asiantaethau marchnata ac mae hi’n arbenigo mewn marchnata gofal iechyd.

Sefydlwyd Winncare (Mangar Health yn flaenorol) yn 1981 ac mae’n arbenigo yn nyluniad a gweithgynhyrchu dyfeisiau meddygol chwyddadwy.  Gwerthir y cynnyrch yn bennaf i sefydliadau’r GIG megis y gwasanaeth ambiwlans a gwasanaethau cymdeithasol Awdurdodau Lleol.

Mae Clare yn gyfrifol am y strategaeth farchnata ar gyfer y busnes, creu datganiadau o werth pwrpasol, ymgyrchoedd marchnata a strategaethau prisio ar gyfer yr holl sectorau a marchnadoedd a wasanaethir. Mae allforio’n cynrychioli 25% o’r refeniw, gyda thiriogaethau allweddol yn cynnwys Ewrop, Awstralia a Gogledd America. 

Mae hi hefyd yn arwain y tîm datblygu cynnyrch a bydd yn lansio 3 cynnyrch newydd yn 2022.