Mike Rundle

Rheolwr Clwstwr Allforio a Chlwstwr MedTech
Llywodraeth Cymru

Mae Mike wedi treulio ei yrfa gyfan dramor, ac yn ystod y blynyddoedd, mae wedi gweithio ym maes gwerthiannau rhyngwladol a datblygiadau busnes gan ddechrau gyda Bunzl Group lle datblygodd a rheoli timau dosbarthu gwerthiannau ar draws y Dwyrain Canol ac i mewn i Affrica, cyn symud i redeg ei weithdrefnau masnachu ac ymgynghori ei hun.  Treuliodd 7 mlynedd gyda'r Adran Masnach Ryngwladol yn gweithio gyda BBaChau i ddatblygu strategaethau effeithiol i gamu i'r farchnad ar draws y byd.  I'r perwyl hwn, mae gan Mike bron i 40 mlynedd o brofiad yn y maes allforio, ac yn ystod y 15 blynedd diwethaf, yn enwedig y degawd diwethaf, mae wedi bod yn gweithio gydag allforwyr brwd a'u helpu nhw i bori marchnadoedd newydd.

Ar ôl gadael DIT, mae Mike wedi arwain nifer o Deithiau Masnach ar ran Llywodraeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol eraill (e.e. Dŵr Cymru, MEA) ac wedi cynghori cwmnïau ynghylch camu i'r farchnad mewn amrywiaeth o leoedd, megis Ewrop, Gogledd America a'r Dwyrain Canol.  Mae wedi cyflwyno nifer o brosiectau ymchwil ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn ymwneud ag amrywiaeth o gynnyrch, gyda Kinetic Cubed.  

Ymunodd Mike â thîm Kinetic Cubed ym mis Tachwedd 2021, yn benodol i reoli Clwstwr Allforio Nwyddau Cwsmeriaid Llywodraeth Cymru.