Lesley Batchelor OBE

Arbenigwr a Hyrwyddwr Masnach Ryngwladol

Mae Lesley Batchelor OBE yn hyrwyddwr allforwyr y DU, ac mae ganddi hanes amlwg iawn o wella perfformiad rhyngwladol cannoedd o fusnesau. Caiff ei hadnabod fel corwynt o fewn y diwydiant, ac mae hi wedi newid dyfodol sawl busnes o ran allforio, ac wedi helpu i hyrwyddo'r angen i fod yn broffesiynol wrth fynd ati i fasnachu'n fyd-eang. 

Mae'n dod o gefndir blue-chip, a gweithiodd fel cyfarwyddwr cyffredinol ar gyfer y Sefydliad Allforio am 12 mlynedd yn hyrwyddo proffesiynoldeb a'r angen am gymwysterau a chymorth i fusnesau. Mae'n gyn-gadeirydd panel craffu arbenigol Deddf Llwgrwobrwyo 2010 Yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol a bellach y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu; mae'n cynghori ar Baneli Cynghori APPG ynghylch Masnachu, Buddsoddi a Gweithgynhyrchu a Phwyllgorau Dethol yn cefnogi BBaChau. Trafodaethau masnach y Siambr Fasnach Ryngwladol/

Ar hyn o bryd, mae Lesley yn arbenigo mewn darparu addysg a hyfforddiant achrededig ar ran y Siambr Fasnach Ryngwladol a'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth i berchnogion busnes a rheolwyr ym maes masnach ryngwladol. Oherwydd ei harbenigedd gwerthfawr mewn eiddo deallusol, trwyddedu byd-eang a marchnata, derbyniodd Lesley wobr 'CBI Real Business First Woman in Business Services' a Phrif Swyddog Gweithredol y flwyddyn gan y Trade Association Congress yn 2015.

Cysylltir â Lesley yn aml i gael ei barn ar Brexit a materion masnach ryngwladol, gan ysgrifennu darnau arweiniol uchel eu parch ar gyfer nifer o gylchgronau, y teledu a gorsafoedd radio. Mae'n cydweithio â Mike Wilson o Go Exporting fel cyd-sylfaenwyr Cymdeithas Arbenigwyr Masnach Ryngwladol Annibynnol a Thollau (SIITACE).