Yacine Sawadogo

Canada Representative
Welsh Government

Mae ein gwaith ar fasnach rhwng Cymru a Chanada wedi tyfu'n fawr ers i mi ymuno â Llywodraeth Cymru yn 2019, gyda mwy a mwy o gwmnïau'n chwilio am gyfleoedd yn y farchnad o Ganada. Mae ein swyddfa wedi gweithio i gefnogi cwmnïau ar draws pob sector, ond bydd cwmnïau o Gymru sy'n gweithio ym maes hedfan, rheilffyrdd, ynni, gweithgynhyrchu gwerth uchel, a'r sectorau bwyd a diod yn gweld Canada yn arbennig o ddiddorol.