Pamela Esquivel

Rheolwr Hwb Ymholiadau DiT LATAC - America Ladin a'r Sefydliad Caribïaidd
Yr Adran Masnach Ryngwladol, Llywodraeth y DU

Mae Pamela Esquivel wedi’i lleoli yng Nghosta Rica ac mae ganddi brofiad eang yn y maes Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Bu’n cyflawni swyddi gwerthiannau corfforaethol am 7 mlynedd ac mae hi bellach yn gwasanaethu cwmnïau yn y DU fel Rheolwr Hwb Ymholiadau LATAC. Fe fydd hi’n awyddus i gael gwybod am eich diddordebau, eich amcanion a’ch cynlluniau i archwilio LATAC. 

Gallai America Ladin ac Ardal y Caribî (LATAC) fod y cam nesaf ar gyfer eich busnes chi. Mae GDP cyfunol yr ardal hon bron yn US$6 triliwn a rhagwelir y bydd ei GDP y pen yn tyfu ar gyfradd o 2.5% y flwyddyn hyd at 2024. Mae’n cynnwys 42 gwlad ac mae cyfanswm poblogaeth yr ardal dros 663 miliwn, gyda’i dosbarth canol yn tyfu a’i heconomïau’n ehangu. 

Mae LATAC yn cynnig llawer o gyfleoedd mewn amrywiaeth o sectorau y mae Cymru yn eu hyrwyddo, megis Bwyd a Diod, Peirianneg Uwch, Modurol, Ynni a mwy - felly mae yno filoedd o gyfleoedd busnes y gallai eich busnes chi fanteisio arnynt! Rydym yn eich gwahodd i’r ardal wych hon!