RCS


Gweithio’n Iach RCS

Mae RCS yn gwmni buddiannau cymunedol Cymreig sy'n ymroddedig i gefnogi busnesau ac unigolion i wella eu llesiant ar gyfer gwaith. Sefydlwyd y cwmni yn y Rhyl yn 2007, ac rydym erbyn hyn yn gweithio ledled Cymru, yn darparu ystod eang o wasanaethau cymorth, hyfforddiant a therapïau sy'n gallu bod o fudd i drawsnewid gweithleoedd a bywydau unigolion.  

Rydym yn arbenigo mewn darparu cefnogaeth i unigolion sydd â chyflyrau iechyd i gael mynediad at, i gadw ac i ffynnu mewn cyflogaeth. Mae ein gwasanaeth Mi Fedraf Weithio yn darparu cymorth iechyd a chyflogadwyedd integredig i helpu pobl gydag anghenion iechyd meddwl ddod o hyd i a gwneud cynnydd mewn cyflogaeth. Mae ein Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith creiddiol yn darparu cymorth ymyrraeth gynnar a therapïau cyflym i leihau ac atal absenoldeb salwch. Rydym hefyd yn darparu ymgynghoriad llesiant, arweiniad a hyfforddiant arbenigol er mwyn cynorthwyo busnesau i greu diwylliant llesiant cadarnhaol yn y gwaith.  

Er 2015, mae ein gwasanaethau wedi bod o gymorth i dros 7000 o unigolion wella eu llesiant ar gyfer gwaith, ac wedi cefnogi cannoedd o fusnesau yng Nghymru i greu gweithleoedd iach.