Feel Safe, Stay Safe - gan Bluestone
Mae Bluestone National Park Resort yn gyrchfan gwyliau byr sydd wedi ei leoli o fewn 500 acer o gefn gwlad Sir Benfro yng ngorllewin Cymru.
Gan swatio o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, agorodd y pentref gwyliau yng Ngorffennaf 2008 gan gyflogi dros 700 o bobl. Mae’n cynnwys 344 o gabanau moethus, bythynnod a rhandai stiwdio wedi eu lleoli o amgylch pentref preifat. Yn 2022, bydd gwaith yn cychwyn ar ddatblygu 80 o gabanau ychwanegol o’r ansawdd gorau un fel rhan o fuddsoddiad £15m.
Mae’r pentref gwyliau yn cefnogi amrywiaeth eang o gyflenwyr o’r ardal leol a ledled Cymru. Mae o leiaf 65% o’i £7.8m o wariant yn aros oddi mewn i Sir Benfro.
Gan ddenu dros 155,000 o ymwelwyr y flwyddyn ledled y DU a thu hwnt, mae’r pentref gwyliau’n cynnwys Well Spa, Blue Lagoon Water Park, a’r Serendome, ble daw y tu allan i mewn, ac amrywiaeth o fwytai, safleoedd bwyd a’i dŷ tafarn ei hun.
Mae’r amgylchedd a chynaliadwyedd yn ffurfio rhan bwysig o ethos y busnes. Mae’n gweithredu hyn drwy amrywiaeth eang o waith gyda’i fioamrywiaeth, gan greu a chynnal cynefinoedd i fywyd gwyllt, fflora a ffawna.
Mae Bluestone yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau rhydd drwy’r pentref ar gyfer pob oed a gallu, gyda ffocws ar yr awyr agored enfawr a’r amgylchedd naturiol.