Innovate Trust


Insight

Rydym yn elusen wedi’i lleoli yng Nghaerdydd sy’n cefnogi unigolion gydag Anableddau Dysgu; datblygasom y cysyniad Byw Gyda Chymorth yn y Deyrnas Unedig, ac agor y ‘Cartref Grŵp’ cyntaf yn 1974. 

Heddiw, rydym wedi ehangu ein gwaith Digidol, ac wedi addasu a chreu dyfeisiau Clyfar sy’n defnyddio’r Rhyngrwyd Pethau, Tai ac Amgylcheddau Clyfar i wella rheolaeth, gwthio ffiniau, a rhoi mwy o annibyniaeth. Yn ddiweddar, datblygasom ap, ‘Insight’, i ehangu Cynhwysiant Digidol a galluogi unigolion i rannu lluniau a fideos, a chyfathrebu mwy gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau. O fis Mawrth 2020 cynigwyd aelodaeth ‘Insight’ i unrhyw un gydag Anabledd Dysgu; gan ehangu Cynhwysiant Digidol, digwyddiadau, gweithgareddau, a chyfleoedd. Bellach mae ‘Insight’ yn Adnodd Cymunedol allweddol am ddim, ar-lein ar gyfer mwy na 1500 o unigolion a sefydliadau. 

Mae ‘Insight’ yn cynnig mwy na 80 o weithgareddau wythnosol byw i aelodau, sydd wedi cael eu cyd-gynhyrchu ac a arweinir gan gyfoedion, yn ogystal â thros 1500 o sesiynau fideo wedi’u recordio ymlaen llaw, newyddion, gwybodaeth a rhagor o adnoddau.