Cyngor Nedd Port Talbot


Diogel ac Iach NPT

Bob dydd mae Cyngor Nedd Port Talbot yn darparu gwasanaethau allweddol ar gyfer trigolion, busnesau ac ymwelwyr.

 Mae'r cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid a chymunedau i greu lleoliad ble gall yr holl blant a phobl ifanc gael y cychwyn gorau mewn bywyd; gall pawb gyfrannu’n llawn at fywyd cymunedol - yn gymdeithasol ac yn economaidd; gall pobl fyw, gweithio a mwynhau amser hamdden mewn lleoliad bywiog ac iach; a ble mae treftadaeth gyfoethog chwaraeon, diwylliannol, diwydiannol a Chymreig yn cael eu dathlu, eu datblygu a’u hamddiffyn.

 Drwy gydol y pandemig mae’r cyngor wedi gweithio gyda phartneriaid a’n cymunedau er mwyn amddiffyn pobl agored i niwed, amddiffyn gwasanaethau ac amddiffyn y GIG.