Bridgend College


The Spider’s Web – Gweledigaeth Anhygoel tuag at Allyriadau Sero

Mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn Goleg Addysg Bellach (AB) sy’n cefnogi mwy na 10,000 o ddysgwyr llawn a rhan amser, ac yn cyflogi tua 700 aelod staff ar draws pedwar campws ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Pencoed, Queen’s Road a Maesteg. Mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i leoli’n gytbell rhwng Caerdydd, prifddinas Cymru, a dinas Abertawe; mae gan y ddwy ddinas fargeinion dinesig uchelgeisiol a chynlluniau rhanbartholi ar hyd y corridor M4, gan gyflwyno cyfleoedd cyffrous ar gyfer y coleg a’n dyheadau ar gyfer y dyfodol. Yn erbyn y cefndir hwn, mae’r coleg yn darparu ar gyfer ei ddysgwyr drwy gynnig ystod eang o gyrsiau, o lefel gyn-fynediad i lefel gradd, mewn mwy nag 20 o ardaloedd galwedigaethol. Mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod eang o sefydliadau i ddiwallu anghenion addysgol y gymuned mae’n darparu ar ei chyfer; mae hyn yn cynnwys busnesau lleol, darpariaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer Dysgu Cymunedol i Oedolion (ACL) ac Ysgolion Cyfun lleol ar gyfer y Llwybrau Dysgu 14-19, y Rhaglen Brentisiaeth Iau a Choleg Chweched Dosbarth Penybont; ein partneriaeth gydweithredol gydag Ysgol Gyfun Pencoed. Mae’r coleg yn gweithredu meithrinfa 100 lle y dydd a Thŷ Weston; darpariaeth breswyl 32 ystafell wely ar gyfer pobl ifanc gydag anghenion ychwanegol. Mae’r Coleg wedi sefydlu partneriaethau llwyddiannus iawn gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Mae Dysgu Seiliedig ar Waith hefyd yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda chontract sy’n cynyddu o hyd a hanes blaenorol gwych o gwblhau fframweithiau.