Coleg Gŵyr Abertawe


Coleg Noddfa, Coleg Gŵyr Abertawe

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn goleg addysg bellach yn Abertawe, Cymru. Fe’i ffurfiwyd yn 2010 gan gyfuno Coleg Gorseinon a Choleg Abertawe. Yn gweithio ar draws 7 lleoliad yn ardal Abertawe, mae’r coleg yn darparu cyrsiau addysgiadol yn amrywio o ddarpariaeth Safon Uwch i gyrsiau galwedigaethol niferus.  Yn ddiweddar mae’r Coleg wedi derbyn dyfarniad “College of Sanctuary”, gan ddathlu’r gwaith sydd wedi’i wneud gydag unigolion sydd â chefndir ceiswyr lloches a lledaenu mynediad i addysg.